Beth gewch chi allan ohono
Mae’n gyfle gwych i gwrdd â phobl newydd, lledaenu’r gair a chael y boddhad o wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau gofalwyr yn yr ardal lle rydych chi’n byw.
Byddwch hefyd yn rhan o raglen wirfoddoli flaenllaw Gofalwyr Cymru a byddwn yn eich cefnogi yr holl ffordd.
Beth mae'n ei olygu?
-
Byddwch yn cysylltu â llyfrgelloedd, fferyllfeydd, meddygon teulu, clybiau chwaraeon a siopau gan ofyn iddynt arddangos posteri a
-
Efallai y byddwch yn cynnal stondinau gwybodaeth mewn archfarchnadoedd, ysbytai, hybiau cymunedol, cyfarfodydd ffydd – unrhyw le y teimlwch y byddwch yn cyrraedd gofalwyr di-dâl i drafod gofalu a dweud wrthynt beth sydd gan Ofalwyr Cymru i’w gynnig.
-
Byddem hefyd am i chi roi gwybod i ni am yr hyn rydych wedi bod yn ei wneud, rhoi adborth i ni a rhoi gwybod i ni ble rydych wedi bod yn dosbarthu deunyddiau.
-
Byddwch yn nodi lleoedd yn y gymuned sy'n cefnogi pobl â chyflyrau hirdymor ac yn rhoi ein deunyddiau iddynt.
-
Byddwn yn rhoi mwy o awgrymiadau i chi ar sut i ddechrau arni yn eich pecyn gwirfoddoli.
-
Chi sydd i benderfynu sut i gymryd rhan!
Y sgiliau sydd gennych chi
-
personoliaeth gyfeillgar
-
sgiliau cyfathrebu gwych
-
y gallu i ddod ymlaen yn dda gyda phobl newydd o bob cefndir
-
angerdd dros wella cymorth i ofalwyr
-
sgiliau trefnu da a mynediad at gyfrifiadur
-
yr hyder i ddefnyddio eich menter eich hun.
Sut y byddwn yn eich cefnogi
Byddwn yn rhoi’r holl offer sydd eu hangen arnoch i ddechrau arni – bydd eich pecyn gwirfoddoli yn cynnwys llawlyfr gwirfoddolwyr ynghyd ag awgrymiadau a chanllawiau ar fynd allan yno am y tro cyntaf. Byddwn hefyd yn danfon y deunyddiau cyhoeddusrwydd yn uniongyrchol i chi, yn ogystal â thalu am eich costau teithio.
Eich amser
Mae'r rôl hon yn hyblyg iawn. Ein hunig ofyniad yw y gallwch gynnig lleiafswm o ddwy awr o wirfoddoli'r mis.
Sut i wneud cais
I gael gwybod mwy lawrlwythwch y disgrifiad rôl. I gofrestru ar gyfer y rôl, cliciwch ar y botwm isod.
Byddwn mewn cysylltiad o fewn saith diwrnod gwaith i drafod eich cais. Rhaid i bob gwirfoddolwr fod dros 18 oed.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach e-bostiwch ni ar volunteer@carerswales.org
Latest updates

Joint Press Statement from Members of the Coalition of Carers in Northern Ireland
Joint Press Statement from Members of the Coalition of Carers in Northern Ireland

Unpaid carers feeling overwhelmed, with over half saying they need more support from councils to take a break
An increasing number of people looking after a disabled, older or ill relative are experiencing poor mental health because they…

Scotland’s unpaid carers can benefit from a transformational Minimum Income Guarantee
Press Release for our new report - Minimum Income Guarantee for unpaid carers: developing a pilot programme.

Got a question about caring?
Every day we hear from people who need help with looking after a friend or family member
Become a member for free
Joining Carers UK is free and takes just a few minutes.