Gofalu am rywun
Canllaw gydag awgrymiadau, cyngor a chefnogaeth i ofalwyr di-dâl
Ydych chi'n gofalu am rywun ond yn ansicr o'ch hawliau a pha gymorth y mae gennych hawl iddo? Mae ein canllaw yn esbonio’r gwahanol fudd-daliadau a chymorth sydd ar gael i ofalwyr gam wrth gam. Mae gofalu am rywun hefyd yn cynnig llawer o syniadau ymarferol i helpu i wneud bywyd yn haws i chi wrth gymryd eich cyfrifoldebau gofalu.
Cael y canllaw
Gofalu am rywun yw ein canllaw blaenllaw ar gyfer unrhyw un sy'n gofalu am deulu neu ffrindiau. Mae’r canllaw yn fan cychwyn ardderchog ac yn rhoi trosolwg o bopeth sydd angen i chi ei wybod, o’ch hawliau, i awgrymiadau ymarferol ac opsiynau cymorth ariannol.
Mae gennym bedwar fersiwn ar gael i adlewyrchu’r gwahanol ddeddfwriaethau ar draws y gwledydd, yn ogystal â fersiwn Gymraeg a Phwyleg yng Nghymru:
Gallwch archebu copïau wedi’u hargraffu o’n siop ar-lein neu drwy gysylltu â swyddfa Gofalwyr Cymru yn info@carerswales.org.
Beth mae'n ei gwmpasu?
Mae canllaw Carers UK Gofalu am rywun wedi’i rannu i’r adrannau canlynol: cael cymorth a chefnogaeth, eich arian a’ch gwaith.
Nodweddion y canllaw:
- Canllaw i ofalwyr: cyflwyniad darluniadol i heriau gofalu, o wneud penderfyniadau anodd i ofalu am eich iechyd a’ch lles.
- Budd-daliadau: trosolwg o ba fudd-daliadau y gallech chi neu’r person rydych yn gofalu amdano fod â hawl iddynt a gwybodaeth am sut i gael gwiriad budd-daliadau.
- Cymorth ariannol arall: gan gynnwys help gyda'r dreth gyngor, costau tanwydd, pensiynau a chostau iechyd.
- Cymorth ymarferol: gan gynnwys asesiad gofal cymunedol, trefnu asesiad gofalwr a thaliadau uniongyrchol.
- Technoleg: gwybodaeth am dechnoleg iechyd a gofal a allai wneud bywyd yn haws i chi a’r rhai yr ydych yn gofalu amdanynt.
- Eich gweithle: eich hawliau yn y gwaith, o weithio hyblyg ac absenoldeb rhiant i amddiffyniad rhag gwahaniaethu.
- Cymorth arall: sut i ddod o hyd i help arall yn genedlaethol ac yn eich cymuned leol