Skip to the content
Choose your content
UK NI Scotland Wales

Join us Login Forum Media centre
Choose your content
UK NI Scotland Wales
Roedd 16% o’r bobl a ddywedodd yng Nghyfrifiad 2021 eu bod yn rhan o’r gymuned LDHTC+ hefyd yn dweud eu bod yn ofalwr. Mae hyn yn golygu bod rhywun sy’n rhan o’r gymuned LDHTC+ yn fwy tebygol o fod yn ofalwr na rhywun nad yw’n rhan o’r gymuned LDHTC+.

Cael cefnogaeth i’ch helpu i ofalu

Cefnogaeth gan yr awdurdod lleol

Mae gofalu’n gallu bod yn waith caled – yn gorfforol ac yn emosiynol. Yn aml, efallai y bydd cefnogaeth gan weithwyr proffesiynol yn canolbwyntio ar yr unigolyn yr ydych yn gofalu amdano, yn hytrach na chi fel gofalwr.

Gall hyn fod yn arbennig o berthnasol i ofalwyr yn y gymuned LDHTC+ os ydych yn teimlo nad yw eich perthynas â’r unigolyn sy’n derbyn gofal gennych wedi’i chydnabod yn iawn, neu os nad ydych yn teimlo y bydd gweithwyr proffesiynol yn deall eich anghenion.

Fodd bynnag, mae’n bwysig dysgu am y gwahanol ffyrdd y gallech gael cefnogaeth fel gofalwr, a gallai asesiad o anghenion gofalwr fod yn lle da i ddechrau.

Gwybodaeth a Chyngor

Gofalwyr LDHTC+ yw’r rhai lleiaf tebygol o gael mynediad at wybodaeth a chyngor gyda dim ond 12% yn dweud eu bod wedi cael pan wnaethom ofyn yn Cyflwr Gofalu yng Nghymru 2022. Mae gan bob awdurdod lleol ddyletswydd gyfreithiol i ddarparu gwybodaeth a chyngor yn eich ardal leol.

Rydym yn rhestru'r dolenni gwe i bob awdurdod lleol yma.

Gallwch hefyd gael gwybodaeth a chyngor gan Gofalwyr Cymru yn amrywio o gyngor ariannol i gymorth lles a chymorth yn y gwaith.

Asesiad o anghenion gofalwr

Os ydych yn ofalwr a’i bod yn ymddangos fel bod angen cymorth arnoch, dylai awdurdod lleol y sawl sy’n derbyn gofal gennych gynnig asesiad o anghenion gofalwr i chi. Os na chewch gynnig asesiad o anghenion gofalwr, dylech gysylltu â’r awdurdod lleol a gofyn am un.

Cewch asesiad o anghenion gofalwr beth bynnag yw lefel eich angen, faint bynnag o ofal yr ydych yn ei ddarparu a beth bynnag yw eich modd ariannol.

I gael rhagor o wybodaeth am Asesiadau Anghenion Gofalwyr, cliciwch yma.

Arosiadau yn yr ysbyty a dod allan o’r ysbyty

Os oes angen triniaeth yn yr ysbyty ar yr unigolyn sy’n derbyn gofal gennych, efallai y byddwch yn pryderu ynghylch a oes angen i chi fel gofalwr ddod allan wrth gysylltu â gwasanaethau neu gael eich ystyried yn berthynas agosaf, yn enwedig os ydych mewn perthynas â’r unigolyn sy’n derbyn gofal gennych.


Yn aml, bydd pobl yn meddwl mai dim ond perthynas drwy waed neu briod yw perthynas agosaf. Fodd bynnag, gallwch gael eich enwebu’n berthynas agosaf rhywun. Gall rhywun sy’n derbyn gofal gennych eich enwebu’n berthynas agosaf iddynt, hyd yn oed os nad ydych mewn partneriaeth – er enghraifft, os ydych yn ffrindiau. Mae’r Sefydliad LHDT yn tynnu sylw at bwysigrwydd enwebu perthynas agosaf i bobl LHDT, gan eu bod yn fwy tebygol o fod wedi ymbellhau oddi wrth eu teulu biolegol a bod â theuluoedd o ddewis sy’n cynnwys ffrindiau, cymdogion a phobl eraill mewn cymunedau LHDT.

Mae hefyd yn bwysig, fel partner neu briod, bod gennych yr un hawliau cyfreithiol mewn lleoliad meddygol â rhywun cydryweddol. Mae gan y GIG yng Nghymru ddyletswyddau cyfreithiol i ddiogelu eich hunaniaeth ond cynnal eich hawliau, felly os oes gennych bryderon ynghylch datgelu eich hunaniaeth gan gynnal eich hawliau, siaradwch â nyrs, meddyg neu weinyddwr yn gyfrinachol a dylent roi cynllun cymorth ar waith.

Dod allan o’r ysbyty

Os yw’r unigolyn sy’n derbyn gofal gennych wedi bod yn yr ysbyty ac yn mynd i gael eu rhyddhau, mae gennych hawl i gymryd rhan yn y broses o gynllunio eu gofal – a gwneud penderfyniadau ynghylch faint o ofal y gallwch neu yr ydych yn fodlon ei ddarparu. Efallai y gwelwch eich bod yn cymryd rôl gofalu am y tro cyntaf, neu fod anghenion yr unigolyn sy’n derbyn gofal gennych wedi cynyddu neu newid. Mae’n bwysig cofio bod gennych yr hawl i wrthod gwneud mwy o ofal nag yr hoffech neu y gallwch ac os felly, ei bod yn ddyletswydd gyfreithiol ar y gwasanaethau cymdeithasol i ddarparu’r gofal sydd ei angen.

Dysgwch fwy am ddod allan o'r ysbyty yma

Gwneud cwyn

Os aiff rhywbeth o’i le â gwasanaethau a ddarparwyd, efallai y byddwch yn chwilio am ffordd o unioni pethau. Mae gwneud cwyn yn anodd i rai pobl – efallai y byddwch yn teimlo’n rhwystredig ac yn ddig, neu efallai y bydd meddwl am gwyno’n eich dychryn neu’n gwneud i chi deimlo’n gwynfanllyd.

Gellir defnyddio’r mecanwaith hwn hefyd i dynnu sylw at unrhyw wahaniaethu yr ydych chi neu’r unigolyn sy’n derbyn gofal gennych wedi’i brofi o ganlyniad i fod yn rhan o’r gymuned LDHTC+.

Mae gwneud cwyn yn gallu bod yn ffordd o unioni cam, cael ymddiheuriad, darganfod beth aeth o’i le, a/neu wneud yn siŵr nad yw’n digwydd eto i chi nac i neb arall.

Dysgwch fwy am wneud cwyn yma

 

 

Lawrlwythwch y canllaw LDHTC+ cyfan a gofal

 

 

Siarad am ofalu

I lawer o ofalwyr LHDTC+, ni fydd siarad am eu rôl gofalu yn croestorri â’u rhywioldeb. Fodd bynnag, os ydyw, gall hyn fod yn anghyfforddus mewn gweithle, mewn lleoliad meddygol neu wrth ofyn am gymorth gan yr awdurdod lleol.

Os ydych eisoes wedi cael profiad o wahaniaethu neu erlid oherwydd eich cyfeiriadedd rhywiol, gall datgelu manylion rôl gofalu wneud i chi deimlo’n fwy agored i niwed ac achosi straen.

Yn y pen draw, mae’n well rhannu’r wybodaeth hon a chael y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch. Mae’n bwysig dod o hyd i’r ffordd orau a deall eich hawliau cyfreithiol fel gofalwr ac fel rhywun â nodwedd warchodedig er mwyn gallu bod mor hyderus â phosibl yn y broses.

Eich hawliau

Mae gennych yr hawl i beidio â chael eich adnabod yn ôl eich cyfeiriadedd rhywiol a bod â’r un hawliau fel gofalwr ag unrhyw un arall. Mae hyn yn golygu y gall y drafodaeth weithiau fod mor syml â chyfeirio at eich statws cyfreithiol neu ddewisol gyda’r unigolyn sy’n derbyn gofal gennych ac yna gwrthod ymwneud â hwy fel arall. Lle’r gweithiwr proffesiynol yw gwneud yr addasiadau addas.

Os yw’r sefyllfa’n fwy cymhleth, mae gennych yr hawl i ymgysylltu ar wahân â’r corff proffesiynol. Er enghraifft, os ydych yn gofalu am aelod teulu a bod aelodau eraill o’ch teulu’n anghyfforddus â’ch cyfeiriadedd rhywiol, gallwch dynnu sylw staff at hyn er mwyn iddynt geisio gwneud addasiadau rhesymol megis cynnig oriau ymweld gwahanol.

Gallwch hefyd ofyn am gael siarad â gweithwyr proffesiynol eraill os ydych yn anhapus â’r sgwrs ac yn meddwl eich bod yn cael triniaeth waeth am eich bod yn LHDTC+. Mae hyn yn cynnwys yn y gweithle lle nad oes rhaid i chi siarad â’ch rheolwr llinell uniongyrchol os ydych yn pryderu y gallai hyn amharu ar eich cyfleoedd yn y gwaith neu eich siawns o gael dyrchafiad.

Mae siarad am eich rôl gofalu yn anodd i unrhyw un, a gall fod yn arbennig o heriol os ydych yn ofalwr LHDTC+. Fodd bynnag, rhywfaint o gynllunio, a’r dewrder sydd ei angen i gymryd y cam cyntaf hwnnw, yw’r unig ffordd o gael mwy o gefnogaeth.

 

 

Ble i gael cefnogaeth

Gall amryw o sefydliadau cenedlaethol ddarparu cymorth. Rydym wedi rhestru rhai o’r rhain isod.

Mae’n bosibl y bydd grwpiau a sefydliadau cefnogi lleol hefyd yn gallu darparu cymorth.

Llinell Gymorth Carers UK
Rydym yma i gynnig gwybodaeth, arweiniad a chymorth ymarferol i chi ar bob cam o’r ffordd. Os dywedwch ble’r ydych wedi eich lleoli, gallwn geisio teilwra ein harweiniad i chi.
E: advice@carersuk.org

Adferiad Recovery
Maent yn darparu cefnogaeth i bobl agored i niwed, gan gynnwys unigolion sy’n gwella o salwch meddwl difrifol a’u gofalwyr..
T: 02920 407 407
W: adferiad.org.uk

Age Cymru
Gwybodaeth a chyngor i bobl dros 60.
T: 0300 303 44 98
W: ageuk.org.uk/cymru

Alzheimer’s Society
Gwybodaeth a chyngor i bobl â dementia a’u gofalwyr.
T: 0333 150 3456
W: alzheimers.org

Bi Cymru
Rhwydwaith Cymru gyfan sy’n dod â phobl ddeurywiol a phobl sy’n meddwl y gallent fod yn ddeurywiol o bob cwr o Gymru at ei gilydd, gan fynd i’r afael ag unigrwydd cymdeithasol a darparu cefnogaeth gan gymheiriaid.
E: BiCymru@yahoo.co.uk
W: bicymru.org.uk

Arolygiaeth Gofal Cymru
Rheoleiddiwr annibynnol iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
T: 0300 7900 126
W: careinspectorate.wales

Diverse Cymru
Elusen yw Diverse Cymru sy’n cefnogi pobl sy’n wynebu anghydraddoldeb a gwahaniaethu oherwydd amrywiaeth o nodweddion gan gynnwys cyfeiriadedd rhywiol neu ailbennu rhywedd.
E: info@diverse.cymru
W: diversecymru.org.uk

Citizens Advice Cymru
Swyddfeydd lleol yn cynnig cyngor/ cynrychiolaeth ynghylch budd-daliadau, dyled a thai.
W: citizensadvice.org.uk

Contact
Gwybodaeth a chyngor i deuluoedd sy’n gofalu am blant ag anabledd neu angen arbennig.
T: 0808 808 3555
W: contact.org.uk

Y Sefydliad Byw yn Anabl
Gwybodaeth a chyngor am gyfarpar i fyw’n annibynnol.
T: 0300 999 0004
W: dlf.org.uk

DrugFAM
Cefnogi teuluoedd, ffrindiau a gofalwyr sy’n cael trafferth i ymdopi â chaethiwed rhywun i gyffuriau neu alcohol.
T: 0300 888 3853
W: drugfam.co.uk

FFLAG
Mae FFLAG yn fudiad gwirfoddol cenedlaethol sy’n ymroddedig i gefnogi rhieni a theuluoedd i ddeall, derbyn a chefnogi aelodau lesbiaidd, hoyw a deurywiol o’u teulu â chariad a balchder
Confidential helpline: 0845 652 0311
W: fflag.org.uk

Independent Age
Gwybodaeth a chyngor i bobl hŷn, eu teuluoedd a’u gofalwyr.
T: 0800 319 6789
W: independentage.orgcymru

LGBT Cymru Helpline
Yn darparu gwybodaeth gyffredinol, cyngor a chefnogaeth gyfrinachol mewn llawer o feysydd bywyd ac o gwmpas amryw o faterion a allai fod yn berthnasol i bobl LHDTC+, eu teulu a’u ffrindiau. Mae’r llinell gymorth ar agor ddydd Llun a dydd Mercher 7pm-9pm.
Free phone: 0800 840 2069
W: lgbtcymruhelpline.org.uk

Mermaids
Os ydych yn berson ifanc ac yn teimlo’n wahanol i’ch rhywedd genedigol, neu os ydych yn rhiant â phlentyn sy’n teimlo fel hyn, gall Mermaids helpu.
W: mermaidsuk.org.uk

Pride Cymru
Elusen LHDT yng Nghymru sy’n gweithio drwy raglen o brojectau i gefnogi’r gymuned LHDT a gweithio i ddileu gwahaniaethu.
E: hello@pridecymru.com
W: pridecymru.co.uk

Rainbow Bridge
Mae Rainbow Bridge yn wasanaeth Cefnogi Dioddefwyr sy’n gweithio’n benodol i gefnogi dioddefwyr cam-drin domestig sy’n arddel hunaniaeth lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsryweddol.
Free phone: 0300 3031 982
E:rainbowbridge@victimsupport.org.uk

Stonewall Cymru
Elusen yw Stonewall Cymru sy’n ymgyrchu dros gydraddoldeb cyfreithiol a chyfiawnder cymdeithasol i bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws yng Nghymru. Gallwch gysylltu â Gwasanaeth Gwybodaeth Stonewall Cymru â’ch cwestiynau am unrhyw fater sy’n effeithio ar bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws.
Free phone: 08000 50 20 20
E: cymru@stonewallcymru.org.uk
W: stonewallcymru.org.uk

Trans*form Cymru
Mae Trawsrywiol Cymru yn cael ei arwain gan Grŵp Llywio o bobl ifanc sydd i gyd yn arddel hunaniaeth ar y sbectrwm traws. Maent yn gweithio i godi ymwybyddiaeth o faterion traws ymysg gweithwyr proffesiynol a phobl ifanc.
E: rachel@youthcymru.org.uk
W: youthcymru.org.uk/transform-cymru

Grŵp Undod Cymru
Mae’r Grŵp Undod yn cynnig ystod eang o wasanaethau i helpu a chefnogi pobl LHDTC+ a’u teuluoedd, eu partneriaid a’u ffrindiau gan gynnwys y Ganolfan Hunaniaeth Undod, canolfan gyntaf Gymru i bawb sy’n arddel hunaniaeth draws.
T: 01792 346299
E: info@unitygroup.wales
W: unitygroup.wales

Umbrella Cymru
Nod Umbrella Cymru yw hyrwyddo amrywiaeth, cydraddoldeb a chynhwysedd rhywiol a rhyweddol ledled Cymru. Maent yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau cefnogi arbenigol.
T: 0300 302 3670
W: umbrellacymru.co.uk

UNIQUE Transgender Network
Grŵp gwirfoddol yw Rhwydwaith Trawsryweddol UNIQUE sy’n cefnogi pobl draws yng Ngogledd Cymru.
T: 01745 337144
E: elen@uniquetg.org.uk
W: uniquetg.org.uk

Viva LGBT
Gwasanaethau arbenigol a chefnogaeth uniongyrchol i bobl ifanc LHDTC+ (14-25 oed) a’r rheini sy’n cwestiynu eu cyfeiriadedd rhywiol neu eu hunaniaeth rhywedd a’u teuluoedd/gofalwyr, wedi’u lleoli yn y Rhyl ac yn gwasanaethu Gogledd Cymru gyfan.
T: 01745 357941
E: info@vivalgbt.co.uk
W: vivalgbt.co.uk

 

Lawrlwythwch y Canllaw LDHTC+ llawn yma

Tags

Got a question about caring?

Every day we hear from people who need help with looking after a friend or family member

Become a member for free

Joining Carers UK is free and takes just a few minutes.

Back to top