Skip to the content
Choose your content
UK NI Scotland Wales

Join us Login Forum Media enquiries
Choose your content
UK NI Scotland Wales

On the 30th March, the Welsh Government released the long-awaited final report from the independent evaluation of the Social Services and Wellbeing (Wales) Act 2014. 

Carers Wales welcomes the overall narrative of the report, many of the recommendations and the test questions it poses to decision-makers. The report makes it clear that although the intentions of the Act are still widely supported and should positively support unpaid carers and people with care needs, there is a substantial gap between the intent of the Act and the implementation on the ground.

Areas of weakness in implementation include that expectations around well-being outcomes are not widely reflected in practice, a lack of consistency in the application of carer support leading to a postcode lottery and question marks around the implementation and application of assessments. The evaluation finds that carers are feeling disempowered and frustrated as they attempt to navigate the social services system.

The report strongly echoes many of the findings of the Carers Wales’ Track The Act surveys completed between 2016 and 2020 where the same disconnect between the commendable ethos of the Act and implementation was highlighted consistently. 

The Welsh Government's commissioned-independent evaluation represents a comprehensive account of the Act’s implementation, informed by years of research and engagement by the evaluation team. It is therefore disappointing that the Welsh Government, on 2nd May, declined a request for a full statement in the Senedd that would have enabled Senedd Members to examine and debate the evaluation’s findings.

Unpaid carers in Wales are under immense strain and need to see their legal rights under the Act delivered effectively and consistently wherever they live. Carers Wales calls for the Welsh Government, regional bodies and local authorities to begin working on devising tangible actions to address the findings of the evaluation without delay. Carers Wales remains eager to work with all interested parties to improve the delivery of the Act.

Ar 30 Mawrth, rhyddhaodd Llywodraeth Cymru adroddiad terfynol hir-ddisgwyliedig y gwerthusiad annibynnol o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.


Mae Gofalwyr Cymru yn croesawu naratif cyffredinol yr adroddiad, llawer o'r argymhellion a'r cwestiynau prawf y mae'n eu gosod i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau. Mae’r adroddiad yn ei gwneud yn glir, er bod bwriadau’r Ddeddf yn dal i gael eu cefnogi’n eang ac y dylai gefnogi gofalwyr di-dâl a phobl ag anghenion gofal yn gadarnhaol, fod bwlch sylweddol rhwng bwriad y Ddeddf a’i gweithredu ar lawr gwlad.


Ymhlith y meysydd gwendid o ran gweithredu mae’r ffaith nad yw disgwyliadau ynghylch canlyniadau llesiant yn cael eu hadlewyrchu’n eang mewn ymarfer, diffyg cysondeb wrth gymhwyso cymorth i ofalwyr sy’n arwain at loteri cod post a marciau cwestiwn ynghylch gweithredu a chymhwyso asesiadau. Mae'r gwerthusiad yn canfod bod gofalwyr yn teimlo'n ddi-rym ac yn rhwystredig wrth iddynt geisio llywio'r system gwasanaethau cymdeithasol.


Mae’r adroddiad yn adleisio’n gryf lawer o ganfyddiadau arolygon Trac Y Ddeddf Gofalwyr Cymru a gwblhawyd rhwng 2016 a 2020 lle amlygwyd yr un diffyg cysylltiad rhwng ethos clodwiw’r Ddeddf a gweithredu’r Ddeddf yn gyson.
Mae gwerthusiad annibynnol a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru yn gofnod cynhwysfawr o weithrediad y Ddeddf, wedi’i lywio gan flynyddoedd o ymchwil ac ymgysylltu gan y tîm gwerthuso. Mae’n siomedig felly bod Llywodraeth Cymru, ar 2 Mai, wedi gwrthod cais am ddatganiad llawn yn y Senedd a fyddai wedi galluogi Aelodau’r Senedd i archwilio a thrafod canfyddiadau’r gwerthusiad.


Mae gofalwyr di-dâl yng Nghymru o dan straen aruthrol ac mae angen iddynt weld eu hawliau cyfreithiol o dan y Ddeddf yn cael eu darparu’n effeithiol ac yn gyson ble bynnag y maent yn byw. Mae Gofalwyr Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru, cyrff rhanbarthol ac awdurdodau lleol i ddechrau gweithio ar ddyfeisio camau gweithredu diriaethol i fynd i’r afael â chanfyddiadau’r gwerthusiad yn ddi-oed. Mae Gofalwyr Cymru yn parhau i fod yn awyddus i weithio gyda phawb sydd â diddordeb i wella’r modd y caiff y Ddeddf ei chyflawni.

Back to top