The State of Caring in Wales 2025: The cost of caring report highlights that carers are facing increased levels of financial and personal debt.
- More than half of carers (52%) are say they are cutting back on essentials like food and heat. This is a 53% increase from 2023 where 34% of carers were making these cuts.
- 42% of carers are struggling to afford the costs directly relating to caring.
- 2 in 3 (66%) of carers say they haven't been able to focus on their career as much as a result of caring and nearly 3 in 10 (29%) of carers who are employed have reduced their working hours because of care.
- Around 4 in 10 carers (39%) say their mental health is bad or very bad as a result of their caring role.
- Nearly two-thirds (63%) of those who reported struggling to make ends meet indicated their mental health was bad or very bad.
- 69% of carers report being forced to forego social activities and hobbies, a 21% increase from our findings in 2023.
Read the full report below.
Cyflwr Gofalu yng Nghymru 2025: Mae adroddiad ‘Cost Gofalu’ yn tynnu sylw at y ffaith bod gofalwyr yn wynebu lefelau cynyddol o ddyled ariannol a phersonol.
- Mae mwy na hanner y gofalwyr (52%) yn dweud eu bod yn torri’n ôl ar hanfodion fel bwyd a gwres. Mae hyn yn gynnydd o 53% ers 2023, pan oedd 34% o ofalwyr yn gwneud y toriadau hyn.
- Mae 42% o ofalwyr yn ei chael hi’n anodd fforddio’r costau sy’n uniongyrchol gysylltiedig â gofalu.
- Mae 2 o bob 3 (66%) o ofalwyr yn dweud nad ydynt wedi gallu canolbwyntio ar eu gyrfa gymaint oherwydd gofalu, ac mae bron i 3 o bob 10 (29%) o ofalwyr sy’n gyflogedig wedi lleihau eu horiau gwaith oherwydd gofalu.
- Mae tua 4 o bob 10 gofalwr (39%) yn dweud bod eu hiechyd meddwl yn wael neu’n wael iawn o ganlyniad i’w rôl ofalu.
- Mae bron i ddwy ran o dair (63%) o’r rhai a adroddodd eu bod yn ei chael hi’n anodd cyrraedd pen llinyn ariannol yn nodi bod eu hiechyd meddwl yn wael neu’n wael iawn.
- Mae 69% o ofalwyr yn adrodd eu bod wedi gorfod rhoi’r gorau i weithgareddau cymdeithasol a hobïau, cynnydd o 21% o gymharu â’n canfyddiadau yn 2023.
Darllenwch yr adroddiad llawn isod.