Mae Gofalwyr Cymru wedi datblygu rhai adnoddau defnyddiol a all eich cefnogi yn eich rôl ofalu.
Llyfr Nodiadau Gofalwyr
Mae'r llyfr nodiadau hwn yn ddogfen syml sy'n casglu'ch meddyliau cyn cyfarfod gyda lle i gasglu'r wybodaeth wrth i'r cyfarfod ddigwydd neu ar ôl i'r cyfarfod ddod i ben.
Siaradodd gofalwyr â ni am fod angen mwy o gymorth i gasglu gwybodaeth gywir o gyfarfodydd a chael lle i gynllunio eu meddyliau ymlaen llaw. Cynlluniwyd y ddogfen bapur hon ar gyfer y rhai nad ydynt ychwaith yn hoffi defnyddio technoleg mewn cyfarfodydd.
Gellir lawrlwytho’r llyfr nodiadau am ddim neu gallwn ddarparu un am ddim i ofalwyr yng Nghymru drwy gysylltu â ni yn info@carerswales.org.
Lawrlwythwch yn Saesneg
Lawrlwythwch yn Gymraeg
Cerdyn argyfwng a ffob allwedd
Mae cerdyn argyfwng a ffob allwedd Gofalwyr Cymru yn adnodd annibynnol sy’n eich nodi fel gofalwr di-dâl os byddwch mewn damwain neu sefyllfa o argyfwng arall. Bydd hyn yn dangos i ddarparwr gwasanaeth brys y gallai fod angen cymorth ar y person rydych yn gofalu amdano hefyd oherwydd eich digwyddiad.
Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw llenwi gwybodaeth gyswllt ar gyfer rhywun sy'n adnabod y person sydd angen gofal fel y gallant gael gwybod nad ydych yn gweithredu.
Mynnwch eich cerdyn argyfwng rhad ac am ddim drwy anfon e-bost atom yn info@carerswales.org